Datganiad Preifatrwydd

MAPPA Gwent – Datganiad Preifatrwydd a Thelerau ac Amodau Defnyddio

Bydd unrhyw wybodaeth a gyflwynir i MAPPA Gwent gan ddefnyddiwr trwy’r wefan hon yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac ni fydd yn cael ei datgelu wrth drydydd partïon oni bai fod hynny’n ofynnol yn gyfreithiol.

Mae parhau i ddefnyddio’r wefan hon yn dynodi wrthym ni eich bod yn deall y datganiad hwn a’ch bod yn cytuno ag ef.

Gofynnir am wybodaeth bersonol mewn rhai achosion, ac mae hyn yn bennaf ar sail wirfoddol, ac fe ddynodir hyn â (dewisol) yn y priod flwch.

Bydd y defnydd bwriadedig ar gyfer unrhyw wybodaeth o’r fath yn cael ei ddangos ar waelod y briod adran. Gall yr wybodaeth gael ei chadw ar gyfrifiadur neu ei phrosesu â chyfrifiadur neu gyfrwng arall.

Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill nad oes gan MAPPA Gwent reolaeth arnynt. Nid yw MAPPA Gwent yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw un o’r gwefannau y cyfeirir atynt, ac nid yw o anghenraid yn cymeradwyo’r safbwyntiau a fynegir ynddynt. Ni ddylid cymryd bod rhestru unrhyw wefan arbennig yn gyfystyr â chymeradwyo’r wefan honno mewn unrhyw ffordd. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes rheolaeth gennym ar argaeledd y tudalennau y mae’r dolenni’n cysylltu â hwy.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wefan MAPPA Gwent, defnyddiwch y ddolen a ddangosir ar y dudalen CYSYLLTIADAU.

SYLWER: NID ar gyfer hysbysu ynghylch troseddau y mae’r cyfeiriad e-bost a ddarperir uchod, felly dilynwch y cyfarwyddiadau ar y dudalen CYSYLLTIADAU os bydd arnoch angen gwneud hynny os gwelwch yn dda.