• English
  • Cymraeg
  • Hafan
  • Gweithio Drosoch Chi
  • Dogfennau i’w Lawrlwytho
  • Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
  • Cadw plant yn ddiogel
  • Dolenni
  • Cysylltiadau
  • Gweithio Drosoch Chi
  • Proses MAPPA
  • Amdanom Ni
Hafan > Gweithio Drosoch Chi

Gweithio Drosoch Chi

Mae Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd (MAPPA) yn gyfres o drefniadau statudol i asesu a rheoli’r risg a achosir gan rai troseddwyr rhyw a throseddwyr treisgar penodol. Cânt eu sefydlu yn rhinwedd Adrannau 325 i 327 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003.


Mae MAPPA yn dwyn ynghyd yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Carchardai mewn trefniant a elwir yn ‘Awdurdod Cyfrifol MAPPA’ ar gyfer pob Ardal MAPPA. Mae ardaloedd MAPPA yn cyd-daro ag ardaloedd yr heddluoedd, fel a nodir yn Neddf yr Heddlu 1996.


Mae nifer o asiantaethau eraill dan ddyletswydd i gydweithredu â’r ‘Awdurdod Cyfrifol’. Mae’r rhain yn cynnwys Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Iechyd, Timau Troseddwyr Ifainc, Awdurdodau Tai Lleol, Canolfan Byd Gwaith a rhai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a darparwyr gwasanaethau monitro electronig.


Mae troseddwyr sy’n gymwys ar gyfer MAPPA yn cael eu hadnabod, ac mae gwybodaeth yn cael ei chasglu a’i rhannu amdanynt ar draws asiantaethau perthnasol. Mae natur a lefel y risg o niwed a achosir ganddynt yn cael eu hasesu ac mae cynllun cydgysylltiedig ar gyfer rheoli risgiau’n cael ei roi ar waith i leihau i’r eithaf unrhyw risg i’r cyhoedd.

  • Datganiad Preifatrwydd
  • Datganiad Hygyrchedd
  • Hawlfraint © MAPPA Gwent 2010
  • Wedi’i chynllunio a’i chynnal gan Gyfathrebu Corfforaethol Heddlu Gwent
  • XHTML Dilys